+44 (0) 1407 764608

Mae'r cyfleuster yma yn y porthladd wrth Pont y Porth Celtaidd a chaiff ei redeg gan y Cyngor Tref i geisio hybu twristiaeth a masnach i ddyfod mewn i’r dref.

Graddfa'r taliadau gadael bagiau yw:

Hyd at 2 awr-£1.50 fesul eitem
Hyd at 4 awr-£2.50 fesul eitem
Hyd at 8 awr-£5.00 fesul eitem
Hyd at 24 awr-£10.00 fesul eitem
Codir tâl ychwanegol o £10.00 fesul eitem bob dydd os na chesglir eitemau ar ôl 24 awr.

 

Ni ellir derbyn bagiau ar gyfer eu storio dros nos ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul na gwyliau banc.

Dim ond ar ôl derbyn derbynneb dilys y bydd eitemau'n cael eu rhyddhau ac os yw'r ffi briodol wedi'i dalu.

Derbynnir eitemau yn unol â'n telerau ac amodau safonol, gallant fod yn destun ymchwiliad â llaw yn dibynnu ar y lefel diogelwch sydd mewn grym.

Amodau tocyn bagiau chwith

Mae'r canlynol yn amodol o’r hyn dderbynnir fel eitemau.

1. Nid yw gweithwyr nac asiantaethau Cyngor wedi hawdurdodir i dderbyn unrhyw erthyglau sydd ar wahân neu gyda'i gilydd yn fwy na gwerth £600. Ni allant dderbyn unrhyw cyfrifoldeb am gadw erthyglau o'i fath yn ddiogel.

2. Mae'r adneuwr yn gwarantu’r Cyngor nad yw eu herthyglau a adneuir gyda'r Cyngor naill a’i ar wahân neu mewn cyfanrwydd yn fwy na gwerth £600. Nad yw'r erthyglau yn beryglus ac na chaiff unrhyw erthyglau eu hadneuo gyda’r Cyngor am fwy na 24 awr.

3. Derbynnir pob erthygl a adneuir yn ôl risg yr adneuwr, ac yn ôl disgresiwn y Cyngor. Ni fydd y Cyngor, ei weithwyr na’i asiantwyr yn atebol am golli, camgyflenwi na ddifrodi unrhyw erthygl a adneuir gyda'r Cyngor. Pa bynnag ffordd yr achosir, boed hynny drwy esgeulustod neu fel arall, nac am unrhyw golled canlyniadol o ganlyniad golled, camgyflenwi na ddifrod.

4. Ni fydd y Cyngor, ei weithwyr na’i hasiantaethau, yn atebol am unrhyw golled canlyniadol o ganlyniad i golli, camgyflenwi neu ddifrodi erthyglau a adneuir gyda'r Cyngor.

5. Mae gan y Cyngor yr awdurdod i gadw unrhyw erthygl a adneuwyd mewn modd y maeny yn ystyried ei fod yn briodol i wneud hynny.

6. Mae'r Cyngor wedi'i hawdurdodi i gyflwyno erthyglau a adneuwyd i unrhyw berson sy'n cyflwyno’r tocyn neu'r dderbynneb a roddwyd yn gyfnewid am yr eitem, prun a’i rhoddwyd y tocyn neu'r dderbynneb hwnnw i'r person hwnnw a’i peidio. Dim ond os yw'r adneuwr yn bodloni'r Cyngor mai ef yw'r adneuwr neu fod ganddo awdurdod yr adneuwr, a bydd hyn yn cynnwys prawf o'i hawl i gyflenwi'r erthyglau a adneuwyd i berson nad yw'n gallu cynhyrchu'r tocyn neu'r dderbynneb priodol. Trwy dystiolaeth gan gynnwys llun wedi'i lofnodi a chwblhau a llofnodi ffurflen, y gall yr eitemau gael ei ryddhau.

7. Gall eitemau gwerthfawr gael eu hadneuo am gyfnod o hyd at 24 awr, bydd gan y Cyngor yr hawl i'w gwaredu ar ôl hynny.

8. Tâl am gyfnod dros amser – bydd tâl ychwanegol am bob erthygl, fel y dangosir yn y Swyddfa gadael bagiau, yn daladwy am gyfnod sy'n fwy na 24 awr. Gellir cael derbynneb am unrhyw daliad ychwaneol a wnaed.

9. Os fydd unrhyw eitem heb fynd oddi fewn I wythnos bydd y Cyngor yn trin yr erthygl fel eiddo coll, ac yn unol â hynny bydd yn cael ei waredu.

10. Dim ond ar ôl talu'r ffi briodol y caiff eitemau eu derbyn ac ni fyddant yn cael eu rhyddhau oni bai fod unrhyw ffi dros ben a allai fod yn ddyledus wedi'i dalu.