+44 (0) 1407 764608

Wedi defnyddio’r gwasanaeth tu allan i oriau Meddygon Teulu yn ddiweddar? Os ydych, gallwch helpu i wella’r gwasanaeth trwy gwblhau arolwg byr. Bydd eich Cyngor Iechyd Cymuned yn defnyddio’r canlyniadau i ddarganfod lle mae’r gwasanaeth yn gweithio’n dda a lle sydd angen gwelliannau. Bydd yr arolwg yn rhedeg o Ddydd Llun 21 Ionawr hyd at Ddydd Sul 31 Mawrth 2019.

Defnyddiwch y ddolen ganlynol ar gyfer llenwi’r holiadur ar-lein: http://svy.at/hxqnn

Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn annibynnol ac yn bodoli er mwyn gwella profiad cleifion o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru ac i gynnig cymorth pan fo angen. I gysylltu â’ch Cyngor Iechyd Cymuned galwch 02920 235558 am fwy o fanylion.