+44 (0) 1407 764608

Mae Cyngor Tref Caergybi yn falch o gyhoeddi bod Cyngor y dref wedi cymryd drosodd Parc ar Lon New Park Caergybi ers y 10fed Gorffennaf 2017. Gwnaethwyd hyn er mwyn atal y Cyngor Sir rhag cau'r ardal hamdden oherwydd eu sefyllfa ariannol. Mae Cyngor y Dref wedi cyflwyno cais loteri ar gyfer gwella'r Parc ac ar gyfer cynnwys ail sgrin 2 yn Sinema Empire ar ôl i ymgynghoriad cyhoeddus gymeryd lle.

 

Dylid derbyn penderfyniad gan y Loteri ym mis Medi, os na fydd Cyngor Tref yn llwyddo i dderbyn grant Loteri bydd y Parc yn aros ar agor a bydd rhai gwelliannau yn cael eu gwneud gydag arian mae Cyngor y Dref wedi ei neilltuo.

Fel Cyngor Tref, rydym yn falch o allu cadw'r cyfleuster ar agor a byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth i'n cymuned fel y rhestrir ar y wefan hon.