+44 (0) 1407 764608

Mae parhau i lynu'n gaeth wrth ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a chyngor iechyd yn allweddol bwysig i osgoi ymchwydd mewn Coronafeirws ar Ynys Môn, yn ôl Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi.

Mae hi'n credu gryf y gallai difaterwch a diystyru, mewn unrhyw ffordd, y canllawiau hollbwysig sy'n ceisio gwarchod cymunedau, ddadwneud holl waith caled ac aberth trigolion lleol, y GIG a gweithwyr allweddol hyd yma.

Fel yr oedd pethau ddoe (Dydd Mawrth, Medi 8fed), roedd nifer yr achosion Coronafeirws a gadarnhawyd ar Ynys Môn yn 469.

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, “Mae Coronafeirws wedi cyffwrdd pob un ohonom mewn rhyw ffordd ac mae'n parhau i wneud hynny. Mae ein bywydau pob dydd wedi newid; a rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus wrth i ni fynd i’r afael â’r ‘normal newydd.”

“Bu'r achosion o Coronafeirws yn y ffatri Two Sisters yn Llangefni yn ddychryn i Ynys Môn eisoes. Daethom trwy hynny gyda chefnogaeth partneriaid allweddol, y gymuned leol ac, wrth gwrs, gyda chydweithrediad y safle a'i staff.

Ychwanegodd, “Rydym bellach yn mynd i gyfnod y gaeaf, sydd hefyd â’i heriau a’i bwysau ei hun. Mae'n hanfodol ein bod i gyd yn gwrando ar gyngor Llywodraeth Cymru a chyngor iechyd cyhoeddus ac yn ei ddilyn. Cadwch at reolau pellter cymdeithasol, gwisgwch orchuddion wyneb a chofiwch olchi'ch dwylo'n rheolaidd os gwelwch yn dda. ”

“Mae gan bob un ohonom ran hollbwysig i’w chwarae i gadw ein cymunedau’n ddiogel. Fodd bynnag, byddwn yn erfyn ar ein pobl ifanc i fod yn gyfrifol pan fônt yn cymdeithasu, yn arbennig felly mewn tafarndai a bwytai. Meddyliwch amdanoch chi'ch hun yn ogystal â'ch teulu, eich ffrindiau a’ch cymunedau. Dilynwch y canllawiau pellter cymdeithasol a chyngor iechyd cyhoeddus. Y peth olaf rydym ni eisiau ar Ynys Môn yw cynnydd yn nifer yr achosion a allai arwain at gyfnod clo yn lleol a mwy o farwolaethau – trist dweud ein bod wedi gweld hyn yn digwydd mewn rhannau eraill o'r DU. ”

I gadw Ynys Môn a Chymru yn ddiogel:

  • cadwch bellter cymdeithasol bob amser
  • golchwch eich dwylo'n rheolaidd
  • os ydych chi'n cwrdd ag aelwyd arall, y tu allan i'ch aelwyd estynedig, arhoswch yn yr awyr agored
  • gweithiwch gartref os gallwch chi
  • arhoswch gartref a chael prawf os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd estynedig symptomau.

Ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Annwen Morgan, “Nid yw ffigyrau Ynys Môn wedi cynyddu’n sylweddol ers peth amser bellach. Er bod hynny'n beth da, mae'n parhau i fod yn hollbwysig i ni gofio bod y feirws yn dal i gylchredeg, a rhaid i ni barhau i gadw pellter cymdeithasol a golchi ein dwylo yn rheolaidd.”

“Mae'r un peth yn wir hefyd pan nad ydym yn y lle gwaith, yn enwedig wrth gwrdd â ffrindiau a theulu fel y mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn ei ganiatáu. Cadw pellter cymdeithasol yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau nad yw nifer ein hachosion Covid-19 yn cynyddu'n sylweddol. ”

“Mae'r Cyngor Sir yn gweithio tuag at adferiad wedi Coronafeirws, ond fel cymuned rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus. Byddai caniatáu i’r feirws ailafael yn effeithio ar fwy o fywydau ac o bosib yn arwain at fwy o farwolaethau. ”

Cofiwch os gwelwch yn dda ei bod yn bwysig cael prawf Coronafeirws, hyd yn oed os yw eich symptomau'n rhai ysgafn, fel nad ydych yn peryglu pobl eraill yn eich teulu a'ch cymuned.

protect yourself and others cym